Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond mae ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion o droseddau domestig yn ardaloedd Heddlu Dyfed-Powys, Gwent a Gogledd Cymru wedi cynyddu 23 y cant, ac gwelwyd cynnydd enfawr o 48 y cant yn ardal Heddlu De Cymru. Er y gellid priodoli llawer o'r cynnydd hwn i gydnabyddiaeth gan yr heddlu a hyder cynyddol i adrodd am droseddau o'r fath, onid yw arweinydd y tŷ yn teimlo bod y rhain yn gyfres o ystadegau sy'n peri gofid?