Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 24 Ionawr 2018.
Rwy'n cael cyfres o gyfarfodydd dwyochrog ar draws yr holl gyd-Aelodau yn y Llywodraeth, a ddechreuodd pan ymgymerais â'r swydd hon ychydig wythnosau yn ôl yn unig, er ei bod yn teimlo ychydig yn hirach. Dyna ddiben y cyfarfodydd dwyochrog: sicrhau bod yr agenda gydraddoldeb, sy'n amlwg yn cysylltu â phob rhan o Lywodraeth Cymru—Llywodraeth Cymru fel cyflogwr, Llywodraeth Cymru fel sefydliad a Llywodraeth Cymru fel llywodraeth—yn cael ei hymgorffori yn briodol yn yr holl waith a wnawn.