Band Eang Cyflym Iawn yng Nghaerffili

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 3:05, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i arweinydd y tŷ am ei hymdrechion arwrol yn sicrhau bod y problemau gyda band eang ar ystadau Castle Reach a Kingsmead yng Nghaerffili wedi cael eu datrys. Mae wedi gweithio'n hynod o galed, ac rwy'n falch iawn o weld ei fod wedi digwydd. Ond roeddwn yn awyddus i—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, yn groes i'r hyn a ddywedodd Russell George yn gynharach. Roeddwn yn awyddus i godi mater y cynllun cyflawni ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a'r ffaith nad yw band eang yn cael ei grybwyll yn y cynllun cyflawni, ond bydd yn hanfodol o ran cysylltu busnesau ledled etholaeth Caerffili. Rwy'n pryderu nad oes cyfeiriad penodol at hynny, felly a wnaiff arweinydd y tŷ roi sicrwydd y bydd yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i gyflawni'r cynllun 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a sicrhau'n benodol fod y busnesau sydd wedi'u lleoli yn ac o amgylch ystadau diwydiannol yn ardaloedd gogleddol cymunedau'r Cymoedd yn elwa o ddarpariaeth band eang?