Trais Domestig

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:52, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hymateb, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaed yn gynharach y mis hwn ynglŷn â phenodi dau ymgynghorydd cenedlaethol rhan-amser newydd ar drais domestig. Rwy'n siŵr y byddant yn dod â chryn dipyn o brofiad i'r swydd hon, ond wrth gwrs, bu bwlch o chwe mis ac maent yn wynebu her fawr bellach o ran cyflwyno'r ddeddfwriaeth.

Gwn fod y Bil trais domestig sydd ar y ffordd gan Lywodraeth y DU yn bwriadu penodi comisiynydd cam-drin a thrais domestig, ac roeddwn yn meddwl tybed a ydych yn rhagweld y bydd unrhyw gyswllt rhwng ein cynghorwyr a'r comisiynydd newydd pan gânt eu penodi.