Band Eang Cyflym Iawn

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:20, 24 Ionawr 2018

Diolch am hynny. Rwy’n croesawu’r ffaith bod yna gynllun, wrth gwrs, achos rŷm ni’n gwybod bod y cynllun blaenorol, sydd wedi dod i ben, heb gyrraedd pob man. Rwy’n gwybod nad oes gyda chi’r ffeithiau llawn—yr adroddiad llawn—eto, ond mae yna bentrefi di-ri sydd wedi adrodd nôl fod yna cables yn dal i hongian oddi ar y polion ac nad yw’r gwaith wedi cyrraedd pen y daith, a hefyd bod yna rannau o Gymru, nad oedd byth yn mynd i gael eu cyrraedd o dan y cynllun blaenorol, sydd angen ateb, efallai, gwahanol, mwy clyfar er mwyn eu cyrraedd nhw.

Dau gwestiwn, felly, os caf i fod yn glir: rwy’n credu eich bod wedi sôn yn y gorffennol am £80 miliwn ar gyfer hyn—ai dyna’r swm sydd gyda ni o hyd, ac a ydych chi’n credu bod hynny’n ddigonol, neu a fydd angen ychwanegu at hynny? A faint o gyfle go iawn sydd i ddarparwr arall ddod i mewn i helpu yn y broses yma, achos rwy’n ofni bod rhoi ein hwyau i gyd ym masged BT Openreach wedi cyrraedd y sefyllfa bresennol, lle nad ydym ni, yn syml iawn, yn gallu cyrraedd yr wyau i wneud yr omlet?