Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:49, 24 Ionawr 2018

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o glywed hynny i gyd. Wrth gwrs, rydym ni'n sôn rŵan am sut mae penderfyniadau gan fyrddau cyhoeddus yn gallu cael effaith ar wasanaethau ar gyfer pobl draws, ond hefyd mae yna enghreifftiau o benderfyniadau yn effeithio'n wael ar grwpiau eraill na fyddent, efallai, wedi digwydd petai gennym ni fwy o amrywiaeth ymhlith rheolwyr uwch y sector gyhoeddus. Byddwch chi’n gwybod bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi nodi hyn yn glir, ac wedi gweld nad oedd yna welliant cyffredinol mewn cynrychiolaeth mewn rolau uwch, a bod merched a phobl o leiafrifoedd ethnig yn parhau i fod yn llai tebygol o fod mewn rolau uwch. Er bod cyfran y menywod mewn rolau uwch wedi gwella mewn rhai sectorau, fel addysg, mae hi wedi gwaethygu mewn rhai eraill, fel y gwasanaeth iechyd a’r heddlu. Felly, beth ydych chi am ei wneud er mwyn gwella amrywiaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac yn benodol yn y gwasanaeth iechyd, er mwyn sicrhau na fyddwn ni’n cael sefyllfaoedd lle mae swyddogion a rheolwyr yn rhwystro datblygiad gwasanaethau i grwpiau lleiafrifol? Ac yn fwy cyffredinol, a ydych chi’n cefnogi cynrychiolaeth gyfartal o ran rhywedd ar fyrddau cyhoeddus yng Nghymru?