Band Eang Cyflym Iawn

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:23, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Os gwelwch yn dda, peidiwch â thalu BT am Princes Gate. Yn ystod yr amser dywedwyd wrthyf ar sawl achlysur y bydd Princes Gate yn cael band eang cyflym. Yn wir, y llynedd, ysgrifennodd pennaeth Cyflymu Cymru ataf—nid wyf am ei enwi—yn dweud y byddai ail gynllun yn sicrhau bod Princes Gate yn cael ei uwchraddio i fand eang cyflym iawn erbyn hydref 2017. Dyma'r ymateb gan arweinydd Openreach:

Mae'r seilwaith sy'n gwasanaethu eich cymuned yn rhan o raglen roeddem yn ei chynnal a ddaeth i ben ar ddydd Sul 31 Rhagfyr 2017. Mae'r cynllun hwn wedi dod i ben— nid ydym yn gwneud rhagor. Ac nid Princes Gate yn unig. Mae Cynwyl Elfed, Hermon, Lawrenny, Martletwy, darnau o Benfro—maent i gyd wedi cael eu siomi. Cawsant addewid, dywedwyd wrthynt yn bendant—a Llanpumsaint—y byddent yn ei gael, ac ni fyddant yn ei gael bellach. Nid wyf yn credu eich bod yn bersonol gyfrifol am hyn, Weinidog, oherwydd gwn eich bod yn credu'n gryf mewn cyflawni'r cynllun hwn, ond buaswn yn hoffi i chi siarad yn go gadarn â BT ac Openreach. Ni allant wneud addewidion i bobl ac yna dweud, 'Anlwcus. Mae wedi dod i ben. Trueni', oherwydd mae gan y bobl hyn fywydau i'w byw, busnesau i'w cynnal, plant i'w haddysgu. Mae band eang cyflym iawn yn ddarpariaeth gyffredinol sydd ei hangen ar bawb heddiw, ac ni allaf weld pam y dylai fy etholaeth fod o dan gymaint o anfantais.