Gwasanaethau Caplaniaeth

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:13, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol fod yna gaplan yn arfer gwasanaethu Bae Caerdydd, yn fwyaf diweddar y Parchedig Peter Noble. Fodd bynnag, daeth hynny i ben yn ystod haf 2017, a chawsom wybod nad oes gan y grŵp o eglwysi ar gyfer y lle hwn unrhyw fwriad neu arian i lenwi'r rôl. Os yw aelodau'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd yn dymuno trefnu cymorth caplaniaeth drostynt eu hunain heb unrhyw gost i'r Comisiwn, gellid gwneud trefniadau iddynt ddefnyddio ystafell ar ystâd y Cynulliad at y diben hwnnw. Caniateir hyn o dan y rheolau ar gyfer grwpiau trawsbleidiol.