Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:58, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 22 Ionawr 2018 ynghylch camau cyfreithiol yn ymwneud â chronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio. Gallaf gadarnhau bod achos cyfreithiol ar y gweill mewn perthynas â thorri contract ac esgeuluster proffesiynol yn erbyn Amber Fund Management a Lambert Smith Hampton Group Ltd. Byddai'n amhriodol i mi roi sylwadau pellach ar y cam hwn yn yr achos hwnnw.