Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 24 Ionawr 2018.
Rwy'n falch o fod yma i ddadlau heddiw ynglŷn ag ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i'r amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth—efallai nad yw'n destun sgwrs mewn bariau a thafarndai ar draws y wlad, ond serch hynny—[Torri ar draws.] Wel, yn eich rhan chi o'r wlad efallai, Dai Lloyd. Serch hynny, mae'n fater pwysig i ni ei drafod am ei fod yn mynd at wraidd yr hyn a wnawn yma o ran llunio deddfwriaeth a sicrhau y cedwir at y costau perthnasol. Fel y dywedodd y Cadeirydd wrth agor, nod yr adroddiad oedd archwilio costau deddfwriaeth gan gyfeirio'n benodol at y costau sy'n gysylltiedig â sampl o Ddeddfau dethol y buom yn edrych arnynt. Hefyd, ein cyfrifoldeb oedd archwilio'r trefniadau adrodd a monitro presennol ar gyfer costau deddfwriaethol ar ôl gweithredu, a sefydlu effeithiolrwydd ac ansawdd yr asesiadau effaith rheoleiddiol a gynhyrchwyd, a sut y mae hyn yn llywio monitro. Aeth asesiadau effaith rheoleiddiol i wraidd ein hymchwiliad. Er y gwnaed cynnydd ar asesiadau effaith rheoleiddiol—ac mae hynny i'w groesawu—dengys adroddiad y Pwyllgor Cyllid ei bod yn amlwg fod angen rhagor o waith, megis sicrhau bod crynodeb o'r wybodaeth ariannol i'w gynnwys yn yr asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer pob un o'r Biliau a gyflwynir.
Roeddem hefyd yn teimlo bod yn rhaid nodi'n benodol pa un a yw'r costau'n gyfalaf neu'n refeniw, ac roedd hynny'n allweddol i argymhelliad 1. Os caf droi at dryloywder, yn ystod taith cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, roedd y dystiolaeth a gafodd sawl pwyllgor yn dangos y problemau gyda chraffu ar newidiadau arfaethedig i grantiau, newidiadau i linellau cyllideb a gwahanol gyfrifiadau a gynhwyswyd i danlinellu'r cynnydd tybiedig yn y cyllid i ysgolion a gofal cymdeithasol. Roedd y rhain yn faterion a godais yn ystod y gyllideb ddrafft a'r ddadl ar y gyllideb derfynol, a gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried er mwyn gwneud yn siŵr fod y broses hon mor dryloyw â phosibl.
O ran rhanddeiliaid, roedd pryder ehangach—neu roedd y goblygiadau i randdeiliaid, dylwn ddweud, yn peri pryder arbennig. Maent wedi cael eu taro gan gostau uwch oherwydd materion o fewn yr asesiadau effaith rheoleiddiol. Er enghraifft, clywodd y pwyllgor fod aelodau'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi eu taro gan gostau uwch o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 na'r rhai a amlinellwyd yn wreiddiol gan yr asesiad effaith rheoleiddiol. Honnodd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl mewn tystiolaeth fod y newidiadau hyn wedi eu gwneud yn ddirybudd, ac at hynny, o ran costio'r cynllun Rhentu Doeth Cymru, roedd cyngor Caerdydd, sy'n gweithredu'r cynllun ar ran y 22 awdurdod lleol, wedi creu eu model ariannol eu hunain a ddangosai fod asesiad effaith rheoleiddiol Llywodraeth Cymru wedi goramcangyfrif cyfanswm y landlordiaid yng Nghymru. Felly, dyna un mater a gafodd sylw yn ein hymchwiliad. Un o'r argymhellion sy'n ymwneud â rhanddeiliaid yw argymhelliad 5, sef y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yn drylwyr y goblygiadau ariannol ar gyfer pob rhanddeiliad mewn asesiadau effaith rheoleiddiol, gan gynnwys sicrhau bod y goblygiadau ariannol ar gyfer y sector preifat yn cael eu hystyried yn llawn. Nid yw hynny bob amser yn syml, ond teimlem ei fod yn bwysig iawn.
Rwy'n siomedig hefyd—mae'r Cadeirydd eisoes wedi crybwyll hyn—fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 10, sy'n argymell bod y wybodaeth gryno mewn asesiadau effaith rheoleiddiol yn cyfeirio'n benodol at sut y bydd unrhyw gostau a nodir yn yr asesiad yn cael eu hariannu a chan bwy. Er fy mod yn gweld beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud drwy ddweud bod hyn yn ddefnydd ehangach o'r asesiad effaith rheoleiddiol nag a ragwelwyd yn wreiddiol, ac y gallai achosi cymhlethdodau, wel, ydy, mae'n bosibl y gallai, ond yn y pen draw, teimlem fod hon yn ffordd dda o gryfhau asesiadau effaith rheoleiddiol, gan eu gwneud yn fwy ystyrlon a chyflwyno'r wybodaeth honno yn nhermau'r cyllid a'r Biliau y teimlwn eu bod yn hanfodol—yn sicr mae'n mynd i fod yn ddefnyddiol—wrth benderfynu a yw'r ddeddfwriaeth honno yw mynd i gyflawni ei nodau ai peidio.
Cyfeiriodd Simon Thomas hefyd at faterion yr aethpwyd i'r afael â hwy yn neddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Pe bai Steffan Lewis yma heddiw, rwy'n siŵr y byddai'n neidio i fyny ac i lawr yn ei sedd ac yn rhoi sylwadau ar y pwynt hwn. Roedd ganddo ei bryderon ynglŷn â'r ddeddfwriaeth honno, ac rydym yn gyfarwydd iawn â'r rheini. Os na allwn gael hyn yn iawn o ran llunio deddfwriaeth symlach, yna mewn perthynas â deddfwriaeth mor gymhleth â Deddf cenedlaethau'r dyfodol, buaswn yn dweud y bydd yna broblemau difrifol i'r Cynulliad hwn. Felly, gadewch inni edrych ar ffyrdd y gallwn wella'r broses ddeddfu hon yn gyffredinol.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, credaf ei bod hi'n dda fod Llywodraeth Cymru'n credu bod lle i wella'r prosesau fel bod unrhyw wallau neu fylchau yn y dadansoddiad yn cael eu nodi cyn cyflwyno Bil gerbron y Cynulliad. Credaf fod pawb ohonom yn gytûn ar hynny. Rydym oll am wneud y broses hon yn well. Rydym am inni ddilyn proses ragorol yma yn y Cynulliad, proses y gall pobl ar draws gweddill y DU, ac ar draws y byd yn wir, edrych arni a dweud, 'Dyna sut y maent hwy yn ei wneud. Credwn fod hynny'n well na'r ffordd rydym ni yn ei wneud. Rydym eisiau cael hyn yn iawn'.
Rwy'n gobeithio, felly, fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y goblygiadau. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn nifer o'r argymhellion a gyflwynwyd gennym. Mae'n ddrwg gennyf eich bod wedi gwrthod un o'r argymhellion hynny yn arbennig, ond rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd y gellir gwella'r broses hon fel y gallwn gael gwell ffordd o lawer o ddeddfu yn y dyfodol.