6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:25, 24 Ionawr 2018

Fel rhywun sydd ddim yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, a gaf i ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am eu gwaith ar hyn? Rwy'n credu bod y Cadeirydd bach yn galed ar ei hunan yn awgrymu nad hon yw'r ddadl mwyaf cyffrous heddiw. Yn sicr, nid hi fydd y lleiaf cyffrous. Ond mi roeddwn i'n cael fy nghyffroi o ddarllen yr adroddiad ac o edrych ar yr argymhellion, oherwydd, fel mae e wedi cyfeirio, y profiadau a gawsom ni gyda'r Bil, nawr y Ddeddf, anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r hyn sy'n cael ei grynhoi yn yr adroddiad a'r argymhellion sy'n dod o'r adroddiad yn siarad yn uniongyrchol at rai o'r problemau a'r rhwystredigaethau a brofom ni fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth graffu ar y Ddeddf benodol honno, yn enwedig rhai o'r argymhellion o gwmpas yr asesiadau effaith rheoleiddiol o safbwynt sicrhau ansawdd yr asesiadau, bod yna ddrafft o asesiad effaith rheoleiddiol ar gael fel rhan o'r ymgynghori a'r broses o greu deddfwriaeth, a hefyd y rôl bwysig yma mae rhanddeiliaid yn ei chwarae, a bod angen gwella'r ymwneud y mae rhanddeiliaid yn ei gael yn y datblygu ac yn yr adnabod a chreu'r costau sydd yn dod yn sgil deddfwriaeth. Mae hynny i gyd yn bwysig ac mae hynny i gyd yn berthnasol iawn i'n profiadau ymarferol ni o safbwynt craffu ar y Bil.

Mae'n eironig fy mod i'n gorfod codi'r grachen yna ar y diwrnod y mae'r Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, ond dyna ni. Achos dim ond wrth graffu yng Nghyfnod 1 y Bil yna y daeth llawer o'r gwendidau a'r camgymeriadau ariannol i'r golwg o safbwynt y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Yn wreiddiol, roedd y Llywodraeth yn rhagweld arbedion dros gyfnod o bedair blynedd o £4.8 miliwn. Mi ddaeth hi'n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad oedd arbedion, ond bod costau o bron i £8 miliwn. Roedd hynny'n wahaniaeth o £12 miliwn. Felly, rwy'n meddwl bod hynny wedi codi'r gorchudd ar rai o'r risgiau a rhai o'r problemau sydd yn rhan o'r broses yma—rhai y mae'n rhaid inni warchod yn eu herbyn nhw nawr yn sgil yr argymhellion sydd wedi cael eu gwneud gan y pwyllgor.

Roedd hynny hefyd yn golygu, wrth gwrs, ein bod ni wedi gorfod trafod a dadlau a phleidleisio ar Gyfnod 1 y Bil yna gyda'r asesiad effaith rheoleiddiol gwreiddiol oddi ar y bwrdd, i bob pwrpas, wrth ei fod yn cael ei ailysgrifennu, ac wedyn gohirio'r penderfyniad ariannol a oedd fod digwydd ar ôl y bleidlais, neu'r un pryd â'r bleidlais ar Gyfnod 1. Nid oedd modd wedyn gwaredu gwelliannau Cyfnod 2 nes bod y materion ariannol yna wedi'u setlo, ac mi wnaethom ni hynny 24 awr yn unig cyn ein bod ni'n eistedd lawr i bleidleisio ar welliannau Cyfnod 2. Felly, fe fuodd yn dipyn o smonach o broses. Mi roedd yna ddryswch ac nid oedd yn rhoi'r eglurder y byddwn i'n ei ddymuno—nac unrhyw un ohonom ni, rwy'n siŵr—wrth graffu ar ddeddfwriaeth yn y lle yma, a fyddai'n caniatáu ein bod ni i gyd yn hapus fod y broses yn gydnerth, yn gyhyrog, ac yn ennyn hyder, nid yn unig fan hyn yn y Siambr, ond tu hwnt, wrth gwrs, o blith y rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach. 

Mi allech chi ddadlau nad yw'n bosib gwarchod rhag pob sefyllfa. Mae hynny'n ddigon rhesymol. Rydym ni i gyd yn fodau dynol ac mae yna gamgymeriadau yn anochel yn digwydd ar adegau. Mi allech chi ddadlau hefyd fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi gwneud eu gwaith wrth graffu ar y Bil ac wedi amlygu rhai o'r cwestiynau yma a arweiniodd at ailweithio’r ffigurau o gwmpas y Bil. Byddwn i fy hun yn cytuno â hynny. Mae hynny i gyd yn ddilys ac i gyd yn bosibl. Ond, wrth gwrs, mae'n rhesymol hefyd inni gyd ddisgwyl fod pob peth yn cael ei wneud i osgoi sefyllfa o'r fath yn y lle cyntaf, ac mae'n rhesymol i ni i gyd ddisgwyl bod yna wersi wedyn yn cael eu dysgu os yw'r camgymeriadau yna yn digwydd, ac nad ydyn nhw'n cael eu hailadrodd yn y dyfodol.

Dyna pam fy mod i yn croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor a'r argymhellion mae'r pwyllgor wedi'u gwneud. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion, er mai dim ond derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad mwyaf perthnasol, o'm safbwynt i, sef y mater yma o gysylltu digonol gyda rhanddeiliaid wrth greu y costau. Felly, diolch i'r pwyllgor am daflu goleuni ar wendidau'r broses. Diolch hefyd am gynnig datrysiadau penodol i rai o'r problemau hynny. A gaf i annog y Llywodraeth—fel y byddan nhw, rwy'n siŵr—i ymateb yn bositif a derbyn yr holl argymhellion, ond fel man lleiaf wrth gwrs i ddysgu'r gwersi?