Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid ydw i'n meddwl mai dyma fydd y ddadl fwyaf cyffrous y byddwn ni’n ei chynnal yn y Cynulliad heddiw, neu, yn sicr, yn ystod y tymor, efallai, ond mae hi’n ddadl bwysig. Mae yn ddadl pwysig. Os caf i ddweud beth yw pwrpas yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyllid, efallai bydd rhai Aelodau wedyn yn gweld ei bod hi’n bwysig.