Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 24 Ionawr 2018.
Oedd, roedd hi. Dyna pam y gadawodd.
Dyled a ddefnyddir i ariannu prosiectau balchder fel HS2, a fydd yn costio dros £70 biliwn i drethdalwyr y DU ac sydd wedi ei gamreoli'n aruthrol—a'r ffrae sy'n ymwneud â staff sy'n gadael yn cael gordaliad o bron £2 filiwn yw'r ddiweddaraf mewn cyfres o enghreifftiau o wastraff, sydd wedi arwain at fwy na dyblu'r costau, ac mae rhai adroddiadau'n awgrymu y gallai dreblu'r costau cychwynnol erbyn y caiff ei gwblhau. Dyled a ddefnyddir i ariannu cyllideb gymorth tramor ddireolaeth, cyllideb sydd bellach dros £12 biliwn.