Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 24 Ionawr 2018.
Na, na, na. Mae'n ffaith. Mae'n ffaith. Y ffaith hon.
Yn yr ychydig ddyddiau diwethaf clywsom am brosiect—[Torri ar draws.] Na. Clywsom am brosiect sydd i fod i ddarparu ffynhonnau, pympiau dŵr a systemau dyfrhau ledled Affrica ddeheuol, ac eto, ni chyrhaeddodd bron 70 y cant o'r cyllid hwnnw y bobl roedd i fod i'w cyrraedd. Aeth ar ffioedd ymgynghori, gyda staff yn cael eu talu £600 y diwrnod.
Sut y gallwn gyfiawnhau cyllideb gymorth tramor lle mae'r buddiolwr uchaf, Pacistan, yn gwario dros £2 biliwn y flwyddyn ar arfau niwclear, a'r degfed buddiolwyr mwyaf, India, yn gwario £1 biliwn ar raglen ofod? Dewch wir. Gadewch i ni wneud pethau'n iawn. Rhaid inni ddefnyddio cymorth tramor er budd y bobl sydd angen y cymorth hwnnw mewn gwirionedd, ac nid yw'n eu cyrraedd.