Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 24 Ionawr 2018.
Rhaid i Lywodraeth y DU roi'r gorau i wastraffu trethi trethdalwyr gweithgar a chanolbwyntio yn hytrach ar sicrhau bod cwmnïau amlwladol mawr yn talu eu cyfran deg. Dylent gael gwared ar HS2 a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith sydd o fudd go iawn i'r DU, megis band eang cyflym iawn a chysylltedd symudol ym mhobman.
Mae angen i Lywodraeth Cymru ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Mae angen iddynt ddarparu polisi economaidd hirdymor yn seiliedig ar economi dreth isel a rheoleiddio busnes yn fwy cymesur, yn hytrach na mynd ar drywydd agenda wrth-fusnes. Mae gan bob person yng Nghymru, ac yn y DU yn wir, hawl sylfaenol a hawl ddynol i cael to uwch eu pennau ac nid yw hyn yn wir a dyma y byddaf yn ymladd i'w newid.
Rhaid i'r ddwy Lywodraeth weithio gyda'i gilydd er lles a budd Cymru yn hytrach na pharhau i feio ei gilydd a gwneud dim am y peth. Mae eich dwy blaid ar fai ac mae gennych eich dwy yr offer i drwsio ein heconomi, ac mae'n bryd i chi roi pobl Cymru o flaen gwleidyddiaeth plaid.