Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wel, beth am fenter breifat? Mae mwy nag un opsiwn. Dyna'r pwynt rwy'n ei wneud yma. Yr hyn rwy'n ei weld yn y Llywodraeth hon yw mai un opsiwn yw'r unig ffordd ar hyn o bryd.
Roeddwn am orffen yn fyr ar y dreth dwristiaeth oherwydd, mewn gwirionedd, treth wely yw honno, treth wely ymwelwyr. Ac nid wyf yn meddwl ei fod—. Os ydych yn ceisio denu busnes i Gymru, nid wyf yn meddwl y dylai eich prif neges ddweud, 'O gwych, gallwn gael pumpunt ychwanegol o'ch croen tra ydyn ni'n siarad.' A allwch ddweud wrthym heddiw o leiaf pa bryd fydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad ar y cynigion treth y bydd yn bwrw ymlaen â hwy, a sut y gwneir y penderfyniad hwnnw? Credaf y byddai hynny'n dod â rhywfaint o sicrwydd i mewn i hyn.
Mae Janet Finch-Saunders eisoes wedi ymdrin â'r pwynt roeddwn am wneud ar ardrethi busnes. Credaf eich bod yn twyllo eich hunain os credwch fod busnesau o'r farn mai toriad treth oedd eich cynnig, ac rwy'n gobeithio'n fawr, er mwyn yr etholwyr, y byddwch yn ailystyried sefyllfa'r lluosydd a sut y mae holl fusnesau Cymru yn debygol o fod ar eu colled yn sgil hynny.
Hoffwn orffen ar bwynt o gytundeb, er hynny. Nid yw twf economaidd yn nod ynddo'i hun, ond nid yw llesiant canlyniadol yn ganlyniad goddefol i dwf economaidd. Swyddi da, gwasanaethau cyhoeddus a ariennir yn dda, cymdogaethau diogel, ffydd yn ein system ofal—mae'r rhain i gyd yn galw am ddinasyddion hyderus a galluog wedi eu grymuso drwy addysg, rhyddid ac anogaeth i unigolion fod yn weithredwyr pwysig yn eu dyfodol cyfunol, gan gysylltu cyfranogiad mewn twf economaidd â manteision hynny. Ein pobl ddylai fod yn brif ased i ni—byddant yn dod ag enillion mawr i Gymru. Defnyddiwch y strategaeth economaidd i fuddsoddi mewn grymuso cymdeithas sifil, oherwydd mae cyfalaf cymdeithasol hefyd yn talu ar ei ganfed. Diolch i chi.