Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 24 Ionawr 2018.
Mae'n ddrwg gennyf, fe ildiais er mwyn derbyn ymddiheuriad, ond yn amlwg ni chefais un. Rhaid i mi ddweud fy mod hefyd yn siomedig iawn nad yw Llywodraeth Cymru i'w gweld yn deall mai busnesau sy'n creu'r cyfoeth, sy'n talu'r trethi ac yn talu'r aelodau o'r cyhoedd, sydd wedyn yn talu am wasanaethau cyhoeddus. Felly, mae'n amlwg fod yn rhaid i chi gael sylfaen fusnes, busnesau bach, canolig a mawr, Hefin—nid busnesau bach yn unig—ac mae pob un ohonynt yn gwneud daioni i gymdeithas.
Nawr, un agwedd bwysig ar fusnes yng Nghymru, y cyfeiriwyd ati yn y ddadl hon, yw pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth, ac mae'n arbennig o bwysig yng ngogledd Cymru, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, oherwydd buddiannau ei etholaeth ei hun. Mae'r diwydiant twristiaeth wedi cael ei frawychu'n llwyr gan yr awgrym hwn y gallai fod treth ar lety ledled Cymru ar adeg pan nad oes unrhyw drethi o'r fath mewn mannau eraill yn y DU, ac ar adeg pan fo busnesau twristiaeth eisoes yn talu treth gorfforaeth, TAW, yswiriant gwladol cyflogwyr, a llu o drethi eraill megis ardrethi busnes. Mae hynny wedi brawychu llawer o'r busnesau hynny. Mae llawer ohonynt yn fy etholaeth i bellach yn ymatal rhag buddsoddi yn eu busnesau. [Torri ar draws.] Nid yw'n nonsens; fe anfonaf y negeseuon e-bost atoch. Fe anfonaf y negeseuon e-bost atoch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pobl yn ymatal rhag buddsoddi yn eu busnesau oherwydd nad oes ganddynt unrhyw syniad beth sy'n mynd i ddod nesaf gan Lywodraeth Cymru. 'Pam eu bod yn pigo arnom ni?', dywedant. Rydych wedi eu brawychu. Rydych wedi eu brawychu, ac rwy'n tybio'n gryf fod eich Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fy safbwynt. Felly, pan fyddwch yn cael gwared ar y cynnig hurt hwnnw, byddwch yn clywed llawer o weiddi hwrê ar y meinciau hyn, oherwydd mae angen ei roi yn y bin sbwriel cyn gynted â phosibl.
Ac mae pawb ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw seilwaith er mwyn creu ffyniant, pwysigrwydd mynediad gweddus at fand eang, rhywbeth y mae llawer o fusnesau a llawer o gartrefi yn dal i aros amdano, yn enwedig yng ngogledd Cymru ac yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru. Mae pawb ohonom yn gwybod pa mor bwysig yw seilwaith trafnidiaeth addas—cyfeiriwyd ato yn y ddadl ddiwethaf—fel y gallwn gyfeirio peth o'r ffyniant o'r ardaloedd hynny o'r wlad sy'n gwneud yn dda iawn, pa un a ydynt dros y ffin yn Lloegr, Rhun, neu yng Nghymru. Ond rwy'n dweud wrthych: nid wyf o blaid cau llen o lechi ar draws ein ffin, a cheisio anwybyddu'r ffaith bod llawer o bobl yn croesi'r ffin honno—[Torri ar draws.] Nid wyf yn cyhuddo'r Llywodraeth o fod eisiau hyn; rwy'n cyhuddo Rhun ap Iorwerth o fod eisiau hyn. At hyn y cyfeiriai. Y realiti yw bod cysylltiadau economaidd cryf rhwng gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru, a rhwng ardal Birmingham ac ardal Sir Amwythig a chanolbarth Cymru, a rhwng de Cymru a Lloegr o ran Bryste a'r ardal ddaearyddol ehangach yno. Pam na allwch gydnabod bod hynny'n rhoi cyfleoedd i ni? Rydych yn barod i wneud busnes gyda gwledydd filltiroedd lawer i ffwrdd ac eto mae'r wlad lle y ceir y cyfle mwyaf i'n busnesau yng Nghymru ychydig dros y ffin ac nid ydych eisiau cysylltu â hi.