Part of the debate – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
Gwelliant 1. Neil Hamilton
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu:
a) na fydd Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan Lywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i ffyniant economaidd yng Nghymru;
b) y caiff ffyniant economaidd Cymru hefyd ei lesteirio gan Lywodraeth y DU yn camddyrannu gwariant cyhoeddus ar gymorth tramor nad yw'n ddyngarol, cymorthdaliadau gwyrdd, taliadau llog ar y ddyled genedlaethol a phrosiectau oferedd fel HS2; a
c) tra y gallai gwariant ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill gael ei gynyddu'n sylweddol os byddai gwariant yn cael ei ddargyfeirio o'r blaenoriaethau cyfeiliornus hyn, bydd tlodi cymharol Cymru fel cenedl dim ond yn cael ei unioni gan bolisi economaidd tymor hir sy'n seiliedig ar drethi is a rheoleiddio gweithgarwch busnes mewn fordd fwy cymesur.