Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Cyflwynodd UKIP welliant 1 i dynnu sylw at y sefyllfa rydym ynddi o ran economi Cymru.
Mae'r Ceidwadwyr a Llafur yn beio'i gilydd am y sefyllfa economaidd enbyd yng Nghymru, a'r ffaith amdani yw bod y ddwy blaid ar fai. Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu economaidd yng Nghymru ers bron 20 mlynedd, ond wedi methu gwella ein perfformiad economaidd. Arweiniodd yr ymwneud di-glem â chronfeydd strwythurol yr UE at gwymp Prif Ysgrifennydd cyntaf Cymru. Yn anffodus, ni ddysgwyd gwersi o hyn ac o ganlyniad, gwastraffwyd biliynau o bunnoedd a methodd wella ein ffawd economaidd. Roedd arian Amcan 1 i fod yn gyfle unigryw i wella economi Cymru. Mae'n feirniadaeth ddamniol o Lywodraethau Llafur Cymru olynol, wedi eu cynnal gan lywodraethau eraill, fod Cymru wedi parhau i fod yn gymwys i gael arian yr UE.
Addawodd strategaeth economaidd gyntaf y Blaid Lafur y byddai'n cau'r bwlch cynnyrch domestig gros rhwng Cymru a gweddill y DU. Aethant ati hyd yn oed i osod targed o 90 y cant o gynnyrch domestig gros y DU erbyn 2010. Nid yn unig ei bod wedi methu cyflawni'r twf hwnnw, aeth ein heconomi tuag yn ôl. Daeth y targed i fod yn ddyhead, ac yn rhan o hanes pan gafodd ei anghofio'n dawel bach.
Mae amryw o Weinidogion Llafur bellach yn beio Llywodraeth Dorïaidd y DU am dlodi Cymru, ond yn ystod degawd cyntaf y Cynulliad hwn roedd gennym Lywodraeth Lafur a Changhellor a gredai mewn benthyca a gwario enfawr, ac yn yr amser hwnnw aeth ein heconomi tuag yn ôl.
Bellach mae gennym Lywodraeth Dorïaidd yn y DU sydd wedi cyfyngu'n aruthrol ar wariant cyhoeddus oherwydd y llanastr ariannol a adawyd ar ôl gan Gordon Brown. Fodd bynnag, maent hefyd yn rhannol gyfrifol am y llanastr rydym ynddo. Ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi gosod mwy o faich dyled ar ein heconomi. Ie—dyled a ddefnyddiwyd i ariannu—