Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wel, rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn o'ch cyfraniad nad ydych chi'n hoffi'r ffaith bod cydweithio a thrafod yn digwydd gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn enwedig Lloegr, o ran ceisio creu ffyniant yng Nghymru. Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith—[Torri ar draws.] Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud ei safbwynt yn eithaf clir. Mae'n awyddus i gael cysylltiadau ag ardaloedd yn Lloegr a fydd yn gwasanaethu buddiannau pobl Cymru o ran hybu ein ffyniant. Croesawaf hynny ac rwy'n eich cefnogi ar hynny fel Ysgrifennydd Cabinet oherwydd credaf mai dyna'r ffordd iawn ymlaen. Ond yr hyn rwy'n bryderus yn ei gylch yw nad ydym wedi cael ein seilwaith trafnidiaeth yn iawn, nid ydym wedi cael ein seilwaith band eang yn iawn. Rwy'n bryderus iawn am gyflwr yr A55, rwy'n bryderus iawn am y gwahaniaeth yn y buddsoddiad yn y de o gymharu â'r buddsoddiad yn y gogledd. Un enghraifft amlwg o hynny yw metro de Cymru, rhywbeth rwy'n ei gefnogi ac rydym yn ei gefnogi—gwariant o £2 biliwn, ac eto y swm rydych wedi ei ddyrannu ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru yw £50 miliwn. Hanner can miliwn yn hytrach na dwy fil miliwn o bunnoedd. Beth allai fod yn fwy o wrthgyferbyniad na hynny? Mae angen buddsoddiad arnom.
Un pwynt terfynol, os caf, Lywydd, ar Faes Awyr Caerdydd, y cyfeiriwyd ato yn gynharach. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd yn mynd i gyrraedd sefyllfa yn y diwedd lle bydd yn gwneud elw yn hytrach na cholledion i'r trethdalwr. Pan brynwyd Maes Awyr Caerdydd am £52 miliwn, o ran y buddsoddiad cyffredinol, roedd yn seiliedig ar fod y busnes yn gwneud elw yn llawer cynharach nag y mae'n mynd i wneud elw. Ac mewn gwirionedd, pe baech yn edrych ar y rhagolygon a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod ein hymchwiliad—