Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 24 Ionawr 2018.
Fe wnaf mewn eiliad. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n gyflymach nag yn y DU, ers datganoli eto: 6.5 y cant yn uwch o gymharu â 3.1 y cant ledled y DU yn ei chyfanrwydd. Mae'r gyfradd anweithgarwch economaidd ers datganoli wedi gostwng yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd: gostyngiad o 4.5 y cant o gymharu ag 1.9 y cant ledled y DU. O ran swyddi'r gweithlu, rydym wedi gweld cynnydd cyflymach yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd ers datganoli: 21.5 y cant o gymharu ag 19.1 y cant. Mae gennym 100,000 o fusnesau, y nifer fwyaf erioed. Rydym wedi gweld gwariant ar ymchwil a datblygu gan fentrau yn codi 5 y cant mewn termau real, sy'n uwch na chyfartaledd y DU o 2 y cant. Mae pob un o'r ystadegau hyn yn dangos ein bod ar y trywydd iawn, a rhaid cofio hefyd, dros y cyfnod ers datganoli, rydym wedi gweld rhai o'r diwygiadau lles mwyaf creulon, yn enwedig i bobl sydd mewn gwaith, cyflwyno'r credyd cynhwysol a chyfnod estynedig o gyni y mae'r Ceidwadwyr, mae arnaf ofn, yn dal i wrthod ymddiheuro amdano. Fe ildiaf yn awr.