Part of the debate – Senedd Cymru am 6:28 pm ar 24 Ionawr 2018.
—roedd yn eithaf clir y dylent fod yn cael tua 1.75 miliwn o deithwyr bob blwyddyn ar y pwynt hwn, a'r gwir amdani yw eu bod i lawr ar oddeutu 1.4 miliwn. Iawn? Felly mae hwnnw'n wahaniaeth go sylweddol. Rwy'n croesawu peth o'r newid sydd wedi digwydd ym Maes Awyr Caerdydd. Rwy'n cefnogi'r maes awyr ac am iddo ffynnu er lles economi Cymru. Ond rhaid inni wynebu ffeithiau fod prisiad y maes awyr yn seiliedig ar lefel hollol wahanol o berfformiad nag a welwn ar hyn o bryd.