Part of the debate – Senedd Cymru am 6:28 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch. Lywydd—[Torri ar draws.] Lywydd, bwriadaf godi uwchlaw crochlefain cellweirus rhad yr wrthblaid. Gallaf hawlio'r tir moesol yn awr—[Torri ar draws.] Gallaf hawlio'r tir moesol yn awr a bwriadaf ei gadw.
Hoffwn—[Torri ar draws.] Hoffwn siarad am yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad gan y credaf fod llawer o'r materion a godwyd yn y ddogfen hon yn bethau y buom yn gweithio arnynt am y ddwy flynedd diwethaf ym Mhontypridd ac ardal Taf Elái, ac yn Rhondda Cynon Taf. Yn wahanol i'r cellwair a glywsom, rwy'n gobeithio darparu ychydig bach o ddata a rhai ystadegau ar hyn yn ogystal. Oherwydd credaf fod partneriaeth gyffrous wedi digwydd rhwng cyngor dan reolaeth sosialaidd Llafur a Llywodraeth Lafur sosialaidd sy'n cyflwyno dull Llafur sosialaidd o weithredu polisi, adfywio'r economi a datblygu ffyniant.
Credaf fod buddsoddiad a phartneriaeth Rhondda Cynon Taf gyda Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn un o'r modelau llwyddiant y dylem edrych arnynt. Mae datganoli Trafnidiaeth Cymru i ardal Taf Elái eisoes yn cael effaith sylweddol yn economaidd ac o ran adfywio. Credaf fod hwnnw'n fodel pwysig. Yn rhan o hynny a'r fasnachfraint, rwy'n credu bod datblygiad posibl unedau cynnal a chadw yn Ffynnon Taf a'r rhaglen brentisiaethau o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yng Ngholeg y Cymoedd yn arwyddocaol ac yn gyffrous iawn.
A gaf fi ddweud hefyd—? O ran addysg a sgiliau a hyfforddiant a dyhead, erbyn 2020, gyda'r prosiect ysgolion unfed ganrif ar hugain, bydd Rhondda Cynon Taf, dros y cyfnod hwnnw o 10 mlynedd, wedi buddsoddi tua £0.5 biliwn mewn ysgolion newydd, gan foderneiddio ysgolion a seilwaith addysgol newydd. Rwy'n credu mai dyma'r datblygiad mwyaf a mwyaf cyffrous o ran adnoddau a chyfleusterau addysgol ers cenedlaethau.
Ers 2012, mae yna bellach 2,017 yn fwy o fusnesau yn fy etholaeth, cynnydd o 53 y cant yn y nifer. Mae'n hen ardal lofaol, ardal a gafodd ei tharo gan holl broblemau diwydiannu a dad-ddiwydiannu wedyn, ac eto mae'n un o'r ardaloedd lle y ceir fwyaf o dwf busnes. Cynyddodd cyflogau gros yn fy etholaeth 10 y cant o'i gymharu â chyfartaledd o 5 y cant ar lefel y DU. Mae gwerth ychwanegol gros yn dal i fod yn broblem, mae'n is na chyfartaledd y DU, ond cynyddodd 21 y cant o gymharu ag 17 y cant ar gyfer gweddill y DU.
Mae diweithdra ymhlith rhai dros 16 oed wedi gostwng 2.6 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf a 5.1 y cant yn y pum mlynedd diwethaf. Ceir sawl her sylweddol yn ardal Taf Elái, Pontypridd a Rhondda Cynon Taf, ond mae'r bartneriaeth ei hun gyda Llywodraeth Cymru, partneriaeth o fuddsoddi mewn datganoli gwasanaethau a defnyddio hynny fel targed ar gyfer adfywio, datblygiadau sy'n gysylltiedig â'r metro, datblygiadau addysgol, yn trawsnewid y gymuned honno. Credaf fod yr optimistiaeth bellach yn dechrau dod yn amlwg yno.
A gaf fi ddweud—? Efallai ar yr ochr negyddol, wrth gwrs, un o'r heriau mawr ar draws y DU—a gwyddom fod llawer wedi bod am hyn ar y cyfryngau yn ddiweddar—yw symudedd cymdeithasol. Rhaid inni gydnabod y gallwn wneud llawer o bethau o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig a'r adnoddau sydd gennym, ond ni allwn ynysu ein hunain neu dynnu ein hunain allan yn llawn o'r ysgogiadau mega-economaidd a macro-economaidd sydd gan y DU.
Felly, a gaf fi ddweud—? Pan oedd cymaint i'w ddisgwyl gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol, comisiwn a oedd wedi canmol a chydnabod y cynnydd a wnaed yng Nghymru mewn perthynas â thlodi plant, comisiwn a oedd wedi siarad am fwced sy'n gollwng o doriadau lles a'r effaith a gafodd hynny, pan welwch y comisiwn cyfan yn ymddiswyddo am nad oes ganddo hyder fod gan Lywodraeth y DU unrhyw ddiddordeb go iawn mewn symudedd cymdeithasol, pan fydd gennych rywun yn dweud—y cadeirydd a'r is-gadeirydd Ceidwadol—yn y bôn yn beirniadu Llywodraeth y DU am ei hamhendantrwydd, am gamweithredu ac am ei diffyg arweiniad, a phan fydd Alan Milburn, y cadeirydd a benodwyd gan y Ceidwadwyr i arwain y comisiwn hwnnw, yn dweud yn ei lythyr ymddiswyddo,
Nid wyf yn amau eich cred bersonol mewn cyfiawnder cymdeithasol, ond ni welaf fawr o dystiolaeth o'r gred honno'n cael ei throi'n gamau gweithredu ystyrlon, dyna'r cefndir y gweithiwn yn ei erbyn i adfywio a datblygu ffyniant yng Nghymru—yn erbyn cefndir lle mae Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i'r fath raddau i bolisi cyni fel bod y DU bellach yn ail o'r gwaelod yn yr ardal Ewropeaidd gyfan o ran twf economaidd a chynnydd y ddyled heb ei diogelu ar gyfer y DU gyfan i £392.8 biliwn. Dyna'r cefndir economaidd rydym yn gweithio yn ei erbyn—[Torri ar draws.] Rwy'n ymddiheuro, buaswn wedi—