Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 30 Ionawr 2018.
Gwnaf, rydym ni'n mynd i'r afael â'r problemau a achoswyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn y 1990au, pan gafodd gwerth ychwanegol gros y pen ei gadw'n isel yn fwriadol, wrth i swyddi â chyflogau da gael eu dileu a'u newid am swyddi a oedd ar raddfa gyflog llawer is. Rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, bod anghydraddoldebau presennol yn bodoli mewn gwahanol ranbarthau ledled Cymru, a bydd y cynllun gweithredu economaidd yn lledaenu cyfleoedd a ffyniant ar draws Cymru gyfan.
O ran gweithredu'r cynllun, ochr yn ochr â strategaethau eraill, byddwn yn sicrhau canlyniadau pendant yn canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd i holl bobl Cymru, gan gynnwys yr hen ardaloedd diwydiannol.