Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:50, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Byddwn i'n dadlau ei fod yn cynyddu swyddogaeth preifateiddio. Ceir math arall o breifateiddio graddol sy'n digwydd y gallaf eich cyfeirio ato. A ydych chi'n ymwybodol bod cynlluniau o dan eich goruchwyliaeth chi i breifateiddio mwy o wasanaethau dialysis yn y gogledd? A dydym ni ddim yn sôn yn y fan yma am gontractio cwmni i wneud gwaith penodol, dyweder, mynd i'r afael ag ôl-groniad o lawdriniaeth ddewisol; rydym ni'n sôn am osod gwasanaethau craidd y GIG ar gontract allanol i gwmni preifat. Mae ffigurau a welwyd gan Blaid Cymru yn awgrymu mai tua £700,000 fydd yn cael ei arbed, a bydd llawer o'r arbediad hwnnw, mae'n debyg, yn dod o hawliau staff i gael tâl salwch, tâl gwyliau a phensiynau. Mae'n rhaid i chi gytuno bod hynny'n breifateiddio graddol o'r GIG.