Cyflog Isel

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:32, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r rhain yn bethau yr ydym ni'n dal i'w hystyried. Gallaf ddweud bod gwaith teg yn bwysig i ni, a dyna pam mae bwrdd gwaith teg wedi ei gynnull ac mae'n archwilio sut y gallwn ni ysgogi canlyniadau gwaith teg ymhellach o arferion gwariant a chaffael cyhoeddus yng Nghymru. Gallaf ddweud bod y bwrdd gwaith teg o'r farn bod cyflogau teg a derbyniol ac incwm gwarantedig yr awr yn angenrheidiol i sicrhau mwy o sicrwydd ariannol i unigolion, ac i'w galluogi i gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau.