Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 30 Ionawr 2018.
Mae angen mwy o dai arnom ni. Byddai'n helpu, wrth gwrs, pe na byddai pobl yn gwrthwynebu pob un cais am dai sy'n ymddangos ar garreg eu drws, y gwyddom sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac mae ei blaid ef yn adnabyddus am y gwrthwynebiad hwnnw. Mae gennym ni fel Llywodraeth darged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni hynny ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y pwysau yn cael ei gymryd oddi ar y farchnad dai drwy sicrhau bod mwy o gyflenwad o dai. Fel Llywodraeth, dyna'n union yr hyn yr ydym ni'n ei wneud.