Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:51, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn sicr yn anfon cynlluniau Betsi Cadwaladr ar gyfer preifateiddio cynyddol o ddialysis atoch chi. Mae'r ddwy enghraifft hynny yn wahanol dros ben, ond ceir thema gyffredin yno, rwy'n credu, o gwmnïau preifat yn chwarae rhan gynyddol ym maes gofal iechyd, yn pigo'n raddol ar wasanaethau'r GIG. Nid wyf i wir yn cael fy ngyrru gan ideoleg yn hyn o beth—yn y pen draw, siawns nad ydym ni eisiau gwell GIG i gleifion ac i staff. Ond gwneud elw ar amseroedd aros, gwneud elw ar wasanaethau craidd, creu system dwy haen lle mae'r cyfoethog yn cael eu cyfeirio at driniaeth gyflymach, gweithredu gontractau allanol i dorri costau er anfantais staff gweithgar y GIG—nid yw hyn yn dderbyniol, rydym ni'n gwybod nad yw'n iawn, rwy'n eithaf ffyddiog bod y cyhoedd yn credu nad yw'n iawn, felly pam mae Llafur yng Nghymru yn caniatáu iddo ddigwydd?