Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:49, 30 Ionawr 2018

Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, pan mae yna restrau aros hir am driniaeth, mae cwmnïau iechyd preifat yn cynnig y cyfle i gleifion osgoi amseroedd aros drwy dalu ffi. Mae nifer o etholwyr wedi dweud wrthyf i eu bod nhw wedi cael eu hannog i ystyried talu i fynd yn breifat am driniaeth neu ddiagnosis cyflymach. Mae hynny yn golygu bod triniaeth yn dod yn rhywbeth sy'n seiliedig ar y gallu i dalu. A ydych chi'n cytuno bod hyn gyfystyr â chreu system iechyd ddwy haen, ac onid preifateiddio graddol ydy hyn mewn difrif?