Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 30 Ionawr 2018.
Mae yna becyn cyllido, wrth gwrs, wedi cael ei roi mewn lle—£20 miliwn—i gefnogi'r Ddeddf ei hunan a hefyd y cynlluniau rownd y Ddeddf. Mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, datblygu'r gweithlu, sicrhau bod y rheini sydd yn y gweithle â'r sgiliau er mwyn gweithio'n effeithiol yn y system newydd, a hefyd, wrth gwrs, sicrhau bod pethau'n gwella i'r rheini sydd yn dysgu. Felly, mae'r arian yna, ac rŷm ni'n deall pa mor bwysig yw e i gael gweithlu sydd yn effeithiol.