Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 30 Ionawr 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ei hadroddiad ar yr ymchwiliad i ddatgeliadau a gomisiynwyd gennych chi ganddi hi ynghylch ad-drefnu'r Cabinet ym mis Tachwedd y llynedd. Nododd yr adroddiad na fu unrhyw ddatgeliadau heb awdurdod. A ydych chi'n hyderus nad oedd unrhyw ddatgeliadau heb awdurdod, ac a wnewch chi— a wnewch chi— roi'r adroddiad hwnnw ar gael, fel y gallwn ni ddarllen drwy'r adroddiad hwnnw a dod i'n casgliadau ein hunain mewn gwirionedd?