Cyflyrau Cronig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:06, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Prif Weinidog, mae'r rhan fwyaf o wasanaethau cymunedol ar gyfer cyflyrau cronig yn dal i fod ar gael ar ddiwrnodau gwaith yn unig, ac mae angen cydgysylltu'n well gwaith y gwahanol grwpiau a thimau staff sy'n gofalu am gleifion â chyflyrau cronig. Pa ymdrech y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn?