Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 30 Ionawr 2018.
Fel y dywedais i, mae yna weithgor wedi cael ei greu er mwyn cael cynrychiolwyr o dros y pleidiau gwleidyddol a hefyd cynghorwyr er mwyn bod yn rhan o hynny ac er mwyn gallu bod yn rhan o'r gwaith trawsnewid. Mae yna wahoddiad agored i'r rheini sydd wedi cael eu hethol a rhai eraill er mwyn eu bod nhw'n gallu chwarae rhan yn y broses.