Economi De-ddwyrain Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:12, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Cynhaliwyd digwyddiad ar 22 Ionawr, rwy'n deall, yr oedd swyddog o Lywodraeth Cymru yn bresennol ynddo. Nawr, rydym ni'n fwy na pharod i gymryd rhan weithredol yn y fenter hon. Rydym ni'n gwybod y bydd gweithio ar y cyd o fudd i Gymru a'n rhanbarthau, ac rwy'n siŵr y bydd mwy o ddigwyddiadau fel hyn lle byddwn yn parhau i gyfrannu. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n hynod bwysig yw nad yw hyn yn cael ei redeg gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig. Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol Cymru a'r rhai dros y ffin.