Anghenion Dysgu Ychwanegol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siomedig o glywed y penderfyniad i gau Afasic Cymru. Rwyf yn deall y bydd Afasic, sy'n elusen wedi'i lleoli yn y DU, yn dal i gynnig cyngor a chymorth i deuluoedd yng Nghymru. Cyfrifoldeb byrddau iechyd, wrth gwrs, yw sicrhau eu bod nhw'n darparu mynediad digonol at wasanaethau therapi, gan gynnwys therapi lleferydd, iaith a chyfathrebu, a darperir therapi lleferydd ac iaith i'r holl blant a phobl ifanc y nodir bod angen arnynt. Byddwn wrth gwrs yn monitro effaith cau Afasic Cymru ar ddefnyddwyr gwasanaeth.