Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 30 Ionawr 2018.
Trwy ein gwaith ar y tasglu gweinidogol ar gyfer y Cymoedd, ac wrth gwrs, trwy ddatblygu'r metro, ein nod yw cynorthwyo newid, sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl a gwella canlyniadau economaidd yn y Cymoedd. A byddwn yn rhoi pwyslais arbennig ar sicrhau'r budd mwyaf o fentrau newydd, fel y metro ac fel dinas-ranbarthau a bargeinion dinas, i gynorthwyo'r rheini sy'n cymudo i Gaerdydd, ond hefyd yn adeiladu ar bolisïau a rhaglenni adfywio blaenorol gyda'r nod o greu cyfleoedd gwell yn y Cymoedd, gan leihau, wrth gwrs, yr angen i gymudo.