Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 30 Ionawr 2018.
Fe wnaethom gytuno yn ddiweddar i gyflwyno trefn fwy sensitif ac ystyriol o ddefnyddwyr ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru. Mae'n gam allweddol yn y cynllun cyflawni ar ganser diwygiedig. Bwriedir cyflwyno FIT o fewn y rhaglen sgrinio'r coluddyn yng Nghymru ym mis Ionawr 2019 a gobeithir y bydd yn fwy ystyriol o ddefnyddwyr ac yn gwella'r nifer sy'n manteisio arno. Disgwylir y bydd y prawf newydd hwnnw yn arwain at alw cynyddol am golonosgopi o ganlyniad i niferoedd uwch yn ei ddefnyddio ac ychydig mwy o sensitifrwydd.