Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 30 Ionawr 2018.
Byddwn yn cyhoeddi amseroedd aros yn gyffredinol, a bydd hynny'n addas ar gyfer datganiad. Rwy'n awgrymu os oes gan yr Aelod faterion etholaethol penodol y mae ef yn dymuno eu codi, o ran achosion unigol, ei fod yn eu codi nhw yn uniongyrchol ag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n amlwg nad yw'n briodol i ddatganiad gan y Llywodraeth fynd i'r afael â materion etholaethol unigol. Felly, rwy'n awgrymu ei fod yn dilyn y llwybr cywir ar gyfer hynny. Ond byddwn yn cyhoeddi datganiad ar amseroedd aros yn gyffredinol.