Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 30 Ionawr 2018.
Ar yr un cyntaf, mae'n amserol iawn gan y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad am ddigartrefedd yn y cyfarfod llawn yr wythnos nesaf, felly rwy'n siŵr y byddwch chi'n cael gofyn yr holl gwestiynau yr ydych chi eisiau bryd hynny.
Mae'r Ysgrifennydd dros Iechyd yn nodi wrthyf fod y llythyr dan sylw wedi'i roi yn Llyfrgell y Cynulliad, ond mae'n fwy na pharod i anfon copi at bob Aelod Cynulliad i wneud yn siŵr eu bod yn deall yr amgylchiadau a sut i gysylltu.