Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 30 Ionawr 2018.
Mewn gwirionedd, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ynghylch lleoliad yr uned trawma mawr, ac rwy'n mynd i achub ar y cyfle hwn i annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw, fel y gallwn ni glywed yr amrywiaeth ehangaf bosibl o safbwyntiau. Rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed yr araith a wnaed—mae'n ddrwg gennyf, y cwestiwn a ofynnwyd— gan Dai Lloyd nawr, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn gwneud datganiad maes o law pan fydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw gennym ni.