3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:21, 30 Ionawr 2018

Mae dinasyddiaeth yn beth hanfodol bwysig. Mae'n bwysig ei bod hi'n cael ei dysgu yn ein hysgolion ni, ond hefyd, mi fuaswn i'n dweud bod dinasyddiaeth yn beth pwysig i ni i gyd, ac mae deall sut rydym ni'n cyd-fyw gyda'n gilydd yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig. Rydw i'n mawr obeithio bod y ffordd rydym ni'n newid ein gwleidyddiaeth ni i estyn y franchise i bobl ifanc, a sicrhau ein bod ni'n newid hefyd y ffordd rydym ni'n ymgyrchu pan rydym ni'n sefyll etholiad—. Rydw i'n credu bod hynny'n mynd i fod yn hollbwysig wrth ysbrydoli pobl i bleidleisio am y tro cyntaf.

Mae'r Aelod hefyd yn fy nhemtio i, unwaith eto—sut allaf i ddweud hyn—ar fater STV a sut rydym ni'n pleidleisio. Mae fy marn bersonol i yn gwbl glir, ac mae'r Aelod yn gwybod lle'r ydw i'n sefyll ar hyn. Rydw i'n cefnogi STV ar gyfer etholiadau yma, yn San Steffan ac i lywodraeth leol. Nid oes gen i ddim amheuon ac rydw i'n cyd-fynd â'r Aelod ar beth mae'n ei ddweud amboutu manteision STV. Mi fuasai hynny, wrth gwrs, hefyd yn helpu datrys y broblem yr oedd Janet Finch-Saunders wedi ei chodi yn ei chyfraniad hi pan roedd hi'n sôn amboutu diffyg cystadleuaeth ar gyfer rhai seddi mewn rhai rhannau o Gymru.

Ond mae'n rhaid i fi, ac mi fuaswn i'n awgrymu bod yn rhaid i chi hefyd, gydnabod nad oes yna ddigon o gefnogaeth ar hyn o bryd i symud at y system yma. Heb fod yna gefnogaeth gyffredinol ar draws y wlad, nid wyf i'n credu y dylem ni orfodi newid i'r system etholiadol ar bobl. Rydym ni'n creu'r pwerau yma, y pwerau newydd i alluogi cynghorau i wneud penderfyniadau eu hunain os ydyn nhw'n meddwl bod y bobl maen nhw'n eu cynrychioli eisiau iddyn nhw symud i gyfeiriad felly. Ond yr unig ffordd y buaswn i'n newid y system yn gyffredinol byddai gwthio hynny drwyddo, ac nid wyf i'n credu fy mod i eisiau gwneud hynny, ac nid wyf i'n credu, ar hyn o bryd, fod yna gefnogaeth gyffredinol ar draws y Siambr i wneud hynny. Mi fuaswn i siŵr o fod yn ymgyrchu gydag Aelodau eraill i efallai newid hynny yn y dyfodol, ond dyna le'r ydym ni heddiw, ac rydw i'n credu bod y datganiad rydw i wedi ei wneud heddiw yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.

Rydw i'n cyd-fynd â chi pan rydych chi'n sôn am gydraddoldebau a sut rydym ni'n gallu defnyddio'r strwythurau ar gyfer llywodraeth leol i sicrhau bod grwpiau lleiafrifol yn cael eu cynrychioli mewn cynghorau ar draws y wlad. Mae hyn, wrth gwrs, wedi bod yn fater trafod yn o leiaf un o'r Papurau Gwyn rydym ni wedi eu gweld ar lywodraeth leol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae yn fy meddwl i ar hyn o bryd—nid yw e'n rhan ganolog o'r datganiad rydw i wedi ei wneud y prynhawn yma, ond mi wnes i awgrymu yn ystod y datganiad fy mod i'n mynd i ystyried sut rydym ni'n talu cynghorwyr ar gyfer y dyfodol i sicrhau ein bod ni'n gallu apelio at fwy o bobl a chreu mwy o gyfle i bobl sefyll etholiad yn y dyfodol. Rydw i'n meddwl y buasai hynny'n helpu i sicrhau bod gyda ni fwy o gydraddoldeb y tu mewn i siambrau cynghorau ar draws y wlad yn y dyfodol. Felly, mi fydd yna drafodaeth, ac rydw i'n gobeithio y byddaf i'n arwain trafodaeth ar hyn yn ystod y misoedd nesaf.