Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 30 Ionawr 2018.
Rwyf am ganolbwyntio ar dair agwedd yr ydych chi wedi’u nodi yn eich datganiad y prynhawn yma, ac mae’r tair yn ymwneud â chynyddu diddordeb a chael gwell cynrychiolaeth o fewn llywodraeth leol. Mae’r ffordd y mae pobl ifanc yn dod i gysylltiad â gwleidyddiaeth yn eu blynyddoedd cynnar yn hollbwysig i ddyfodol democratiaeth gynrychioladol, felly mae Plaid Cymru yn croesawu eich bwriad chi fel Llywodraeth i estyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Ond, heb os, mae yna ddiffyg dealltwriaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru. Er enghraifft, a ydy pobl yn gwybod pa Lywodraeth sy'n gyfrifol am redeg gwahanol wasanaethau? Mae hyn yn ymestyn i bob oedran. Mae yna asesiadau gan Brifysgol Caerdydd, er enghraifft, yn dangos bod yna broblem o ran diffyg diddordeb a gwybodaeth ymysg myfyrwyr yng Nghymru mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, ond hyd yn oed llai o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth leol.
Felly, wrth groesawu'r newydd cadarnhaol yma, mae rhywun yn troi’i olygon at addysg wleidyddol, ac rydym ni wedi trafod hynny’n fras yn barod. Rydw i’n gweld bod yna gyfle euraidd—law yn llaw â chyflwyno’r bleidlais i bobl ifanc, mae angen hefyd rhoi mwy o bwyslais ar wella addysg wleidyddol fel rhan o’r cwricwlwm. Rydych chi wedi sôn am ddinasyddiaeth o dan addysg bersonol a chymdeithasol, ond buaswn i’n licio cael eich barn chi tybed a oes angen gwneud mwy. A oes gennych chi gynlluniau i edrych yn bellach na beth sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn y cwricwlwm?
Mae’n ddealladwy, onid ydy, fod dieithrio gwleidyddol yn digwydd mewn cymdeithas lle nad ydy pobl yn gweld gwerth mewn pleidleisio, ac felly ddim yn cymryd sylw o wleidyddiaeth oherwydd efallai eu bod nhw'n teimlo nad yw eu pleidlais nhw bob tro yn cyfrif efo’r system etholiadol first-past-the-post? Felly, rydw i’n croesawu’ch ymrwymiad chi, yn y gorffennol ac yn y datganiad heddiw, i gyflwyno STV ar gyfer etholiadau lleol, ond nid yw’n mynd i ddigwydd, oni bai ei fod o'n cael ei wneud yn rhywbeth gorfodol ar gyfer holl awdurdodau lleol Cymru, ac yn fandadol ar gyfer pob awdurdod lleol—ddim yn rhywbeth iddyn nhw gael dewis yn ôl mympwy. Mewn gwirionedd, nid cynghorau ddylai gael penderfynu os ydyn nhw am fod yn atebol i’w hetholwyr drwy system etholiadol deg, a dweud y gwir; y Llywodraeth ddylai fod yn penderfynu ar fater o egwyddor fawr fel yna. Mae peidio â gwneud y newid yn fandadol yn dangos diffyg arweinyddiaeth, rydw i’n credu, ar ran y Llywodraeth. Hefyd, mae’n osgoi dyletswydd, fel Llywodraeth genedlaethol—mi ddylai’r arweiniad yna fod yno.
Rydym ni’n gwybod beth ydy manteision STV. Mae STV wedi cael ei ddefnyddio mewn etholiadau lleol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn fanna hefyd, ac, o ganlyniad, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer mwy cystadleuol. Mae cyfansoddiad llywodraeth leol ei hun yn clymu’n agosach at ddymuniadau’r boblogaeth ac mae yna lot fwy o ddiddordeb mewn etholiadau pan maen nhw’n cael eu cynnal drwy’r system STV. Felly, nid wyf i dal wedi fy argyhoeddi efo’r ddadl rydych chi’n ceisio’i wneud ynglŷn â gwneud STV yn rhywbeth dewisol—nid wyf yn deall, heblaw am resymau, efallai, o hunanddiddordeb pleidiol. Ni welaf i un ddadl arall, resymegol dros ei gwneud hi’n gwbl fandadol i STV fod yn rhan o etholiadau lleol yng Nghymru.
I barhau efo’r thema o gynrychioli’r boblogaeth yn well, rydw i’n mynd i faes efallai nad ydych chi’n ei grybwyll. Nid yw’r ddogfen ymgynghorol ar ddiwygio trefniadau etholiadol yn trafod sut i gynyddu cynrychiolaeth grwpiau lleiafrifol ar ein cynghorau ni, ac nid yw, ychwaith, yn mynd i ymafael â sut i gyrraedd at gydraddoldeb rhywedd. Dim ond 28 y cant o gynghorwyr sydd yn fenywod, wrth gwrs, ac mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r broblem sylfaenol yma o ddiffyg cydraddoldeb.
Rydw i’n meddwl fy mod wedi eich clywed chi ar y teledu ddydd Sul yn sôn bod angen mwy o ymgynghori ar eich cynigion ar gyfer rhanbartholi gwasanaethau. Os oes yna fwy o ymgynghori i ddigwydd, tybed a wnewch chi ystyried ymgynghori hefyd ar wahanol opsiynau i sicrhau cydraddoldeb rhywedd o fewn ein cynghorau ni. Wedi’r cyfan, mae cydraddoldeb rhywedd yn ein Cynulliad wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor gan y Prif Weinidog a chan y Gweinidog cydraddoldeb yn y Siambr yma, felly beth amdani? Beth am wneud rhywbeth o fewn llywodraeth leol hefyd? Mae’r drafodaeth yna’n fyw iawn ar hyn o bryd, ac rydw i’n credu ei bod yn amserol hefyd i ystyried sut i ddefnyddio’r system etholiadol i gyrraedd cydraddoldeb yn ein cynghorau lleol ac fe fuaswn i’n licio cael eich barn chi ar hynny. Diolch.