Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 30 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn derbyn addysg sy'n ysbrydoli, yn cymell ac yn rhoi iddyn nhw'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gyflawni eu potensial. Yng Nghymru, mae gennym system addysg sy'n paru cydraddoldeb â rhagoriaeth. Mae ein system yn darparu ystod o ddewisiadau i ddiwallu gwahanol anghenion a galluoedd dysgwyr o bob oed a gallu. Er bod y rhan fwyaf o rieni yn dewis bod eu plant yn cael eu haddysg mewn ysgol, mae cyfran yn penderfynu addysgu eu plant gartref. Bydd yr Aelodau yn gwybod y gelwir hynny'n addysg ddewisol yn y cartref.
Mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i ddarganfod pwy yw'r plant sydd o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn derbyn addysg addas. Ar hyn o bryd mae ganddynt bwerau o ran presenoldeb yn yr ysgol, ond mae'n her iddynt nodi'r plant nad ydynt wedi eu cofrestru mewn ysgol neu'n derbyn addysg addas ar wahân i'r ysgol. A dweud y gwir, rydym mewn sefyllfa lle na all Llywodraeth Cymru roi ffigurau dibynadwy am faint o blant sydd yn cael eu haddysgu yn y cartref, ac nid yw hynny'n dderbyniol.
Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r angen i gryfhau'r polisi a'r fframwaith deddfwriaethol ynghylch addysg yn y cartref. Wrth ddatblygu'r dull hwn, rydym wedi edrych ar ddulliau gweithredu rhyngwladol eraill, a chredaf, Dirprwy Lywydd, ei bod yn deg dweud mai'r ddeddfwriaeth addysg yn y cartref yng Nghymru yw un o'r rhai llai manwl yn Ewrop. Mewn cymhariaeth, mae gan nifer o gymdogion Ewropeaidd systemau cofrestru ar waith ers peth amser.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mwriad i gynorthwyo awdurdodau lleol i fodloni eu dyletswyddau presennol i nodi'r plant nad ydynt yn cael addysg addas. Rwy'n bwriadu ymgynghori ar ddefnyddio pwerau presennol a geir yn adran 29 Deddf Plant 2004 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata i'w helpu i nodi plant nad ydynt yn cael addysg addas. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn ystyried pa bartneriaid fydd yn gallu rhoi'r gronfa ddata fwyaf cyflawn, megis byrddau iechyd lleol.
Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd nid oes rhwymedigaeth ar ysgolion annibynnol i hysbysu awdurdodau lleol am y plant yn eu gofal. Felly, byddaf yn ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 537A o Ddeddf Addysg 1996 i orfodi perchnogion ysgolion annibynnol i roi gwybodaeth benodol i awdurdodau lleol o ran disgyblion sy'n mynychu eu hysgolion.
Prif bwyslais ein dull ni fydd cynorthwyo awdurdodau lleol i nodi pwy sy'n cael eu haddysg yn y cartref, ac asesu a ydynt yn derbyn addysg addas. Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i weithredu'r gronfa ddata a'u cefnogi gyda threfniadau asesu addasrwydd yr addysg i blant sydd ar y gronfa ddata, rwy'n cynnig ymgynghori ar ganllawiau statudol a gyhoeddir i awdurdodau lleol o dan adran 436A o Ddeddf Addysg 1996. Bydd y dull hwn o weithredu yn gyfle inni ystyried sut y caiff ein gwasanaethau, rhaglenni a mentrau cyffredinol eu cyflwyno i phlant sy'n cael eu haddysgu gartref. Mae hyn yn golygu y byddwn mewn sefyllfa well i gyflawni ein hamcan, a nodir yn 'Ffyniant i Bawb', sef cefnogi'r holl blant a phobl ifanc i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd ac i gyflawni eu dyheadau.
Ond gadewch i mi fod yn hollol glir: nid fyddwn yn gorfodi rhieni i gofrestru bod eu plentyn yn cael ei addysg yn y cartref. Yn hytrach, bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i lunio cronfa ddata o blant nad ydyn nhw ar unrhyw gofrestr addysg awdurdod lleol neu ysgol annibynnol. Bydd y dull hwn yn caniatáu inni roi prawf ar gyfyngiadau'r ddeddfwriaeth bresennol a gallwn ddechrau ar unwaith ar y gwaith o ddatblygu rheoliadau a chanllawiau statudol. Bydd yn sicrhau na fydd lefel yr ymgysylltu gan awdurdodau lleol yn anghyson mwyach.
Rwy'n ymwybodol, Dirprwy Lywydd, mai cyfyngedig ac amrywiol yw'r cymorth sydd ar gael oddi wrth yr awdurdodau lleol ar hyn o bryd i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, a dim cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi ymrwymo i gryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i addysgwyr cartref, ac, i'r perwyl hwnnw, rydym yn datblygu pecyn cymorth addysgol. Bydd y pecyn hwn yn sicrhau bod Hwb ar gael i blant a gaiff eu haddysgu yn y cartref, a bydd cymorth anghenion dysgu ychwanegol ar gael a chymorth gyda chofrestru ar gyfer arholiadau. Bydd y pecyn hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer teuluoedd sy'n addysgu gartref i ddysgu Cymraeg, a bydd cynnig clir o gefnogaeth gan Gyrfa Cymru. Bydd fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac addysgwyr yn y cartref i sicrhau bod y pecyn cymorth yn diwallu anghenion y gymuned addysg yn y cartref.
Dirprwy Lywydd, rwyf wedi pwyso a mesur yr hyn y bydd rhai addysgwyr yn y cartref yn ei ystyried yn ymyrraeth anghymesur â'u bywyd teuluol yn erbyn yr hyn a ystyriaf i'n fanteision ehangach i'r holl blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref o ran eu haddysg a'u lles cyffredinol.
Wrth gloi, hoffwn wneud un peth olaf yn glir: rwy'n llwyr barchu dewis rhieni i addysgu eu plant yn y cartref, ac ni fydd unrhyw beth yr wyf yn ei ystyried neu'n ei gynnig yn newid hynny. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod mwyafrif llethol y rhieni sy'n addysgwyr cartref yn dewis gwneud hynny am resymau dilys, ac, mewn rhai achosion, gallai hynny fod y dewis gorau ar gyfer y plentyn. Ond credaf hefyd fod y Llywodraeth dan ddyletswydd foesol i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg addas, a bod disgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu ar eu dyletswyddau cyfreithiol i ymyrryd pan nad yw plentyn yn derbyn addysg addas neu o bosib yn cael ei esgeuluso. Rwyf wedi fy argyhoeddi bod y cynigion a gyflwynir heddiw yn gymesur, yn rhesymol, ac er lles ein pobl ifanc i gyd.