Part of QNR – Senedd Cymru ar 30 Ionawr 2018.
Er bod rhwydwaith bysiau Gogledd Cymru wedi dioddef rhwystrau yn ystod y blynyddoedd diweddar, rydym wedi ariannu mesurau penodol i oresgyn y rheini, gan gynnwys £300,000 i gynghorau Wrecsam, sir Ddinbych a sir y Fflint, yn ogystal â’n grant cynnal gwasanaethau bysiau blynyddol o £25 miliwn, buddsoddiad sylweddol yn rhwydwaith TrawsCymru a chydgysylltydd bysiau gogledd Cymru.