Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr. Rydw i'n croesawu'r ateb pendant yna: na fyddwch chi'n aros tan fod Donaldson yn ei le, oherwydd, fel rydym ni'n gwybod, mi fydd hi'n 2025 cyn bod gan bawb fynediad i'r cwricwlwm newydd, ac mae hynny'n colli cenhedlaeth botensial arall o siaradwyr Cymraeg. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth rydych chi wedi ei rhoi i dreialu neu beilota efallai mewn rhai ardaloedd penodol y model newydd yma o gymhwyster cyfunol, oherwydd y perig yw y bydd hi'n cymryd dwy, tair, blynedd mae'n debyg—os rydw i'n adnabod y modd mae Llywodraethau fel arfer yn ei weithredu— lle, mewn gwirionedd, mae yna ewyllys ac mae yna weithlu addas mewn rhai rhannau o Gymru lle byddai modd troi hwn rownd yn sydyn iawn?