Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn 2015 pan oedd y cymwysterau TGAU newydd ar gyfer Cymru yn cael eu trafod ac ar fin cael eu cyflwyno, dywedodd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, Gweinidog yr wrthblaid bryd hynny dros y portffolio addysg, mai penderfyniad annoeth ydoedd ac y byddai'n cael effaith niweidiol ar ddysgwyr. Mae hi bellach yn 2018, ac mae arnaf ofn fod rhai o'n pryderon yn cael eu gwireddu. Cafodd dros hanner y disgyblion a wnaeth y TGAU mathemateg newydd radd D neu is, yn ôl y canlyniadau a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn. A ydych bellach yn derbyn, ac a fyddech yn cytuno â'n hasesiad, mai camgymeriad oedd penderfyniad eich rhagflaenydd i gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn?