Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:39, 31 Ionawr 2018

Diolch, Llywydd. Mae pedair blynedd, bron i bedair blynedd a hanner nawr, ers cyhoeddi adroddiad yr Athro Sioned Davies ar sefyllfa'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Yn yr adroddiad, mi wnaeth hi'n gwbl glir ei bod hi'n unfed awr ar ddeg bryd hynny ar y Gymraeg fel ail iaith, a bod lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn y pwnc yna yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. A phetai hynny wedi bod yn wir am Saesneg neu Fathemateg, rwy'n siŵr y byddem ni wedi hen weld datrysiad i'r broblem erbyn hyn. Mae hi'n cloi drwy ddweud bod rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Felly, a gaf i ofyn pryd mae'r Gweinidog yn bwriadu y bydd y cymhwyster cyfunol newydd ar gael i'w ddysgu mewn ysgolion?