Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:57, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Byddai diddordeb mawr gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch am eich ateb.

Gan symud ymlaen, mae awdurdodau lleol o dan bwysau cynyddol o du Llywodraeth Cymru i neilltuo tir ar gyfer tai, ac adeiladir tai newydd ledled Cymru wrth ragweld cynnydd yn y boblogaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddatblygu Cymru a denu pobl yma. Nid oes gennyf broblem gyda hynny. Hoffwn ofyn, fodd bynnag: yn sgil y cynnydd tebygol yn y boblogaeth yng Nghymru, pa gynlluniau sydd gennych ar waith i sicrhau bod digon o leoedd mewn ysgolion i addysgu plant ychwanegol yn briodol?