Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 31 Ionawr 2018.
Wel, rwy'n fwy na pharod i grybwyll Amy Dillwyn o fy rhanbarth i fel model rôl sydd wedi marw—nid dyna'r model rôl mwyaf defnyddiol bob amser, er hynny. Un o argymhellion yr adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' yw y dylem roi mentrau dychmygus ar waith i herio stereoteipio ar sail rhyw ac annog merched a bechgyn i ystyried galwedigaethau anhraddodiadol. Pryd rydych yn disgwyl gallu rhoi rhai enghreifftiau inni o fodelau rôl sydd wedi cael eu perswadio i fynd i mewn i ysgolion, a sut y mae'r ysgolion eu hunain wedi nodi'r modelau rôl hynny—gallent fod yn fenywod, ond gallent fod yn ddynion hefyd, mae'n debyg—fel y gallwn ddeall beth sy'n gwneud model rôl da? Diolch.