Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 31 Ionawr 2018.
Wrth gwrs, byddwn yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â sut i drin caethiwed i gamblo yn y lle cyntaf, ond hoffwn ddychwelyd at eich pwynt cyntaf ynglŷn â'r toreth o gyfleoedd gamblo sydd ar gael a pha mor hawdd yw hi i gamblo. Nid yw bellach yn weithgaredd rheoledig neu anarferol, os hoffwch, y mae'n rhaid i bobl wneud ymdrech gorfforol i'w wneud. Mae gamblo ar-lein yn her benodol, a chafwyd dadl gyhoeddus dda yn ddiweddar ynglŷn â pheiriannau betio ods sefydlog. Nawr, rydym ar fin cael pwerau newydd o dan Ddeddf Cymru 2017 lle y gallem wneud rhywbeth, o bosibl, gyda'n pwerau, hyd at isafswm betio o £10. Byddwch yn sylwi, yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, fod y prif swyddog meddygol yn argymell defnyddio ein pwerau hyd yr eithaf. Mae angen inni ystyried yr adolygiad parhaus sydd ar waith gan Lywodraeth y DU hefyd, lle maent yn sôn am ostwng yr uchafswm betio i £2. Mae'r prif swyddog meddygol wedi cynnwys tystiolaeth i gefnogi hynny, felly mae angen inni ystyried sut y gellid effeithio ar ein pwerau pe bai Llywodraeth y DU yn cymryd y cam hwnnw. Mewn gwirionedd, credaf y byddai'n beth da cael y dull gweithredu cyffredinol hwn ledled y DU, ond mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut rydym yn defnyddio ein pwerau i gyfyngu ar gamblo mewn ffordd sydd yn synhwyrol ac yn gymesur, gan gydnabod y niwed a achosir, ac ar yr un pryd, ynglŷn â'r triniaethau rydym yn eu cynnig i bobl sy'n dioddef o gaethiwed i gamblo, oherwydd rwy'n cydnabod y niwed cymdeithasol helaeth y gall ei achosi ac y mae'n ei achosi.